Hafan | Amdanon Ni | Gwasanaethau | Ein Cenhadaeth | Diogelwch | Partneriad | Dolenni English/Saesneg

Amdanon Ni

Bu Nick Rebbeck yn ffermio yn ardal Llambed am tua 30 mlynedd mewn partneriaeth â Patrick Holden. Mae’r fferm yn organig ers 1973 ac yng nghynllun Tir Gofal ers 2001. O dan delerau’r cynlluniau hyn, gofynnir i ffermydd gynnal eu tir mewn ffordd gynaliadwy ac eco-gyfeillgar, gan dderbyn taliadau am wneud hyn. Rhoddir cyfle i ffermydd sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Tir Gofal i groesawu chwe ymweliad ysgol addysgol bob blwyddyn, lle y bydd plant ysgol yn mynd ar daith gerdded o gwmpas y fferm, gan ddysgu am faterion amgylcheddol a chynhyrchu bwyd.

Cafodd Nick foddhad mawr wrth wneud y gweithgareddau hyn a bu’n dristwch mawr iddo pan ddaeth ymweliadau ysgol â phob fferm i ben ar ôl 21 Chwefror 2001 yn sgil epidemig clwy’r traed a’r genau. Oherwydd nad oedd modd bellach fynd â phlant ysgol i’r fferm, penderfynodd Nick fynd â’r fferm i’r ysgol.

kids crossing field

 

Ac yntau ag 20 mlynedd o brofiad o wneud ffilmiau, gwnaeth ffilm fer am y fferm i’w dangos mewn ysgolion. Enw’r ffilm yw ‘Blwyddyn mewn Diwrnod’, ac mae’n boblogaidd iawn yn y dosbarth. Mae Nick bellach wedi gwerthu ei gyfran yntau o’r fferm ond mae’n dal ati i gyfrannu fel swyddog addysgol, gan gydlynu ymweliadau ar 8 i 15 fferm yn siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro.

Yn 2004, cafodd Nick gymorth y Soil Association i weithio ar gynllun peilot ar y cyd â Chanolfan Organig Cymru (OCW) ac Addysg Ffermio a Chefn Gwlad (FACE) i gydlynu ymweliadau ysgol â 4 fferm organig/Tir Gofal. Oherwydd llwyddiant y peilot a’i boblogrwydd ymhlith athrawon, cyflawnodd 40 o ymweliadau. Ymweliadau am y tro cyntaf oedd 95% o’r rhain a dywedodd 100% yr hoffent ddod eto. Ar sail y llwyddiant hwn, yn 2005 derbyniodd gyllid newydd trwy’r Soil Association, gan Gyngor Cefn Gwlad, y Cynulliad Cenedlaethol ac Enfys i barhau’r gwaith gwerthfawr hwn. Erbyn hyn mae wedi cwblhau 62 o ymweliadau.

Ei brif nod yw gwneud pobl yn ymwybodol bod adnodd gwych yn agos i bob ysgol a choleg sy’n cynnig ‘addysg go iawn’ – y Fferm!

Manylion Cyswllt:

Nick Rebbeck,
LDysgu ar y Fferm,
Blaenpant,
Felin-fach,
Llambed,
Ceredigion
SA48 8BE

01570 470470 (ffôn)
07977 904949 (ffôn symudol)

nick@learningonthefarm.org.uk