Gwasanaethau
Rydym yn gweithredu fel dolen rhwng y ffermwr a’r ysgol, trwy
drefnu ymweliadau gan y ffermwr â’r ysgol a chan yr ysgol â’r
fferm. Rydym yn annog ysgolion, colegau a grwpiau eraill i astudio
bioamrywiaeth Cymru’n lleol ac i gysylltu’r fferm â holl
bynciau’r cwricwlwm. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithredu yn
siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro. Byddwn yn cysylltu ag
ysgol i drefnu ymweliad, gan bennu â’r athro:
- y dyddiad a lle (unrhyw un o nifer o ffermydd organig/Tir Gofal yn rhwydwaith
Nick)
- pa flynyddoedd i’w cynnwys
- sut y gall yr ymweliad gyd-fynd â chwricwlwm y tymor.
 
|
|
Y camau nesaf yw:
- ymweld â’r ysgol gyda’r ffermwr neu hebddo
am ryw awr neu ddwy, gan gysylltu’r ysgolion â’r
fferm trwy gyflwyniad synhwyraidd rhyngweithiol.
- byddwn yn dod â hadau, planhigion, ynghyd â llawer
o eitemau sy’n helpu i ddweud y stori ‘o’r cae
i’r plât’ ac sut mae’r plant yn cysylltu
deirgwaith bob dydd o’u bywydau â rhyw fferm – boed
yn lleol neu yn rhywle arall.
- byddwn hefyd yn dangos ein ffilm 15 munud o’r enw ‘Blwyddyn
mewn Diwrnod – ar ôl hyn byddwn yn cynnal cwis 10 cwestiwn
am y ffilm.
- ar ôl yr ymweliad, bydd yr ysgol yn ymweld â’r
fferm, lle y byddwn yn cerdded ar hyd llwybr fferm, gan fwynhau’r
wlad a’i bywyd gwyllt.
Gall pynciau a drafodir ar y llwybr fferm sy’n gysylltiedig â’r
cwricwlwm gynnwys, er enghraifft:
- Astudiaethau amgylcheddol
- Y gadwyn fwyd
- Pethau byw
- Creigiau/daeareg
- Dwr, ffynhonnau a ffynonellau
- Dinasyddiaeth
|