Partners

The
Soil Association
Mae rhwydwaith ffermydd organig The Soil Association yn helpu i
ailsefydlu’n cysylltiadau â’r tir ac ailgynnau’r
wybodaeth am sut mae bwyd yn cael ei dyfu.
www.soilassociation.org/

Cyngor
Cefn Gwlad Cymru
Ymgynghorydd statudol y Llywodraeth yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru sy’n
rhoi cyngor ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a chyfleoedd
i fwynhau yn yr awyr agored yng Nghymru gan gynnwys ei hafonydd a’i
llynnoedd.
Cynllun amaeth-amgylcheddol fferm gyfan yw Tir Gofal sydd ar gael
ledled Cymru ers Ebrill 1999. Nod y cynllun yw annog arferion amaethyddol
a fydd yn amddiffyn ac yn gwella tirweddau Cymru. Mae’n talu
ffermwyr i greu mynediad newydd at ddibenion addysgol.
www.ccw.gov.uk/

|
|

Canolfan
Organig Cymru
Mae Canolfan Organig Cymru yn cydweithio â ffermydd organig
ac ysgolion i hyrwyddo dealltwriaeth am fwyd a ffermio ymhlith
disgyblion ysgol. Mae hyn yn digwydd trwy ymweliadau â ffermydd,
tyfu bwyd ar dir ysgolion, a chynllunio bwydlenni iach.
www.organic.aber.ac.uk

Llywodraeth
Cynulliad Cymru
Ymhlith targedau eraill, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am i
Gymru fod yn wlad sy’n dysgu, lle y caiff pobl ffynnu yn
yr economi newydd, gan greu dyfodol cynaliadwy i Gymru.
www.wales.gov.uk/
 |